Teithiau cerdded ar gyfer y gwanwyn
Dewch i ddarganfod yr awyr agored y gwanwyn hwn
Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd – llwybr tawel neu un sy’n cynnig tipyn mwy o her - mae beicio’n ffordd wych o fwynhau’r awyr agored.
Gallwch feicio ar y ffordd, ond mae digonedd o leoedd eraill i feicio yng Nghymru hefyd.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod ble gallwch chi feicio.
Llwybrau cyhoeddus sydd wedi cael eu creu’n arbennig ar gyfer beicio yw llwybrau beicio (gall pobl gerdded a marchogaeth ceffylau ar rai ohonyn nhw hefyd).
Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cynnwys nifer o’r llwybrau beicio hyn – gweler gwefan Sustrans am fwy o wybodaeth.
Mae llawer o lwybrau Sustrans yn mynd ar ffyrdd drwy’r coedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’n agos at y gwarchodfeydd natur cenedlaethol.
O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de, mae Llwybr Arfordir Cymru’n darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch Cymru.
Mae rhai rhannau o Lwybr Arfordir Cymru hefyd yn rhannau o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Mae’r rhan fwyaf o’r rhannau hyn yn wastad. Mae ganddyn nhw arwyneb caled a does yna ddim traffig arnyn nhw.
Edrychwch ar yr adran feicio ar wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Mae gwefan Croeso Cymru’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am feicio, gan gynnwys 10 o’r llwybrau cerdded a’r llwybrau beicio gorau er mwyn gweld cestyll, eglwysi a chapeli.
Gallwch hefyd weld y llwybrau yma ar wefan cynllunio a rhannu llwybrau ar-lein Trailzilla.
Yn y coetiroedd a’r coedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru y mae rhai o’r llwybrau beicio mynydd enwocaf yng Nghymru – edrychwch ar ein tudalen beicio mynydd i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi’n chwilio am lwybr beicio mwy hamddenol, gallwch feicio ar unrhyw ffordd goedwig.
Mae llwybrau beicio neu gyfleusterau eraill ar gyfer beicio yn y coetiroedd a’r coedwigoedd hyn:
Os oes gennych chi ffôn clyfar, gallwch lawrlwytho’r ap PlacesToGo yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys pob un o’r llwybrau beicio hyn a gwybodaeth am gyfleusterau hamdden.
Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.
Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae gwaharddiadau neu gyfyngiadau’n cael eu defnyddio ar dir mynediad agored, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.
Ewch i Coetiroedd a Chi i ddarganfod sut i gael caniatâd i drefnu digwyddiad beicio yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.
Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.
Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn mynd ar eich beic.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd god ymddygiad ar gyfer beicio mewn coedwigoedd. Gallwch weld y cod ar ein tudalen beicio mynydd.