Diwrnodau gwych i'r teulu

Croeso

Mae gan bob coetir a Gwarchodfa Natur Genedlaethol le i'r ymwelwyr iau ddefnyddio eu hegni a mynd yn agosach at natur.

Mae gan rai llefydd gyfleusterau i deuluoedd megis ardaloedd chwarae, llwybrau beicio hawdd a llwybrau cerdded sy'n addas i fygis.

Mae caffis a thoiledau ar gael hefyd pan fyddwch chi eu hangen.

Darllenwch mwy i gael rhagor o awgrymiadau gwych am ddyddiau allan i'r teulu yn yr awyr agored gwych.

Ffilm am ymweld gyda'r teulu

Gwyliwch ein ffilm am ymweld â’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd gyda'r teulu.

Llwybrau cerdded i'r teulu cyfan

Mae coesau bach yn blino'n hawdd, felly mae llawer o lwybrau byrrach i'w cael sy'n berffaith i goesau bach ynghyd â llwybrau darganfod i helpu i gadw diddordeb y cerddwyr iau ar hyd y ffordd.

Mae rhai o'n llwybrau cerdded yn dilyn llwybrau llydan a gwastad sy'n addas i fygis.

Llefydd gyda llwybrau cerdded i deuluoedd

Dyma ein dewis o lefydd gyda llwybrau cerdded i deuluoedd.

Cae'n y Coed, ger Betws-y-Coed

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Coed Moel Famau Forest, ger Yr Wyddgrug

Coed y Bont, ger Tregaron

Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn

Coedwig Clocaenog - Bod Petryal, ger Ruthin

Coedwig Dyfi – Coed Tan y Coed, ger Machynlleth

Fforest Fawr, ger Caerffili

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd

Llyn Crafnant, ger Llanwrst

Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot

Pont y Pair, Betws-y-Coed

Ardaloedd chwarae

O dasgu mewn pyllau i chwilio am chwilod, does dim byd tebyg i'r rhyddid wrth chwarae yn yr awyr agored.

Mae digon o hwyl i'w gael yn yr awyr agored yn y llefydd yr ydym yn gofalu amdanynt ac mae gan rai o'n coedwigoedd ardaloedd chwarae, hefyd.

Llefydd gydag ardaloedd chwarae

Mae'r ardaloedd chwarae yn y coetiroedd hyn yn manteisio ar eu lleoliad naturiol ac yn lle gwych i'r rhai bach ddefnyddio'u hegni.

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Coed Manor, ger Trefynwy

Whitestone, ger Cas-gwent

Antur ar ddwy olwyn

Mae'n hawdd mynd â'r plant ar gefn beic yn un o'n coedwigoedd diolch i lwybrau beicio addas i'r teulu sydd â chyfeirbwyntiau.

Cadwch olwg am lwybrau beicio mynydd gradd werdd neu glas sydd wedi'u hanelu at ddechreuwyr ac yn ddiwrnod allan perffaith i blant hŷn.

Mae gan rai o'n canolfannau i ymwelwyr lwybrau beicio mynydd byrrach wedi'u hadeiladu yn benodol i feicwyr ifanc ac ardaloedd sgiliau wedi'u hadeiladu i'r diben er mwyn ymarfer technegau beicio cyn dechrau ar lwybr.

Mae rhai yn llogi beiciau a chanddynt gyfleusterau golchi felly nid yn unig y gallwch chi logi dwy olwyn, fe allwch eu golchi hefyd!

Dysgu mwy am feicio mynydd.

Llefydd gyda beicio i'r teulu

Ewch i grwydro'r awyr agored ar ddwy olwyn yn un o'r llefydd hyn sydd â'r llwybrau beicio gorau i deuluoedd.

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Coed Nercwys, ger yr Wyddgrug

Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn

Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog

Coedwig Clocaenog - Bod Petryal, ger Rhuthun

Coedwig Glasfynydd, ger Llanymddyfri

Cronfa Dwr Alwen, ger Dinbych

Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot

Agosáu at natur

Mae ein coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn llefydd gwych i ddianc o brysurdeb bywyd a mynd yn agos at natur.

Mae llawer ohonynt yn hygyrch i'r teulu cyfan ac yn llefydd gwych i fwynhau treulio amser gyda'ch gilydd a darganfod ychydig o fywyd gwyllt rhyfeddol Cymru.

Llefydd i weld bywyd gwyllt

Byddwch chi allan yng nghanol y bywyd gwyllt pa bryd bynnag y byddwch chi'n ymweld ag un o'n llefydd ni, ond mae yna rai sydd â chyfleusterau i'r teulu ynghyd â chyfle gwych i weld pob math o wahanol fywyd gwyllt.

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a Chanolfan Ymwelwyr Ynyslas, ger Aberystwyth

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, ger Abermaw

Canolfannau i ymwelwyr

Weithiau'r cyfan yr ydych chi eisiau yw diwrnod allan yn rhywle gydag ychydig o gysur.

Mae gan ein canolfannau i ymwelwyr bopeth y mae ei angen arnoch i wneud ymweliad gyda chwilotwyr ifanc yn un hawdd.

O siopau yn gwerthu hufen iâ a nwyddau i blant wario eu harian poced i ganolfannau i ymwelwyr gyda chaffis a thoiledau; popeth y mae ei angen arnoch chi.

Llefydd gyda chanolfannau i ymwelwyr

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Coedwig Cwm Carn, ger Casnewydd (canolfan ymwelwyr a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, ger Aberystwyth 

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd (canolfan ymwelwyr a redir gan RSPB)

Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot (canolfan ymwelwyr a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)

Syniadau a gweithgareddau ar gyfer chwarae yn yr awyr agored

Pa un a ydych yn ymweld â'ch parc lleol, yn cynllunio diwrnod ar y traeth neu'n cychwyn ar daith gerdded drwy goetir, mae archwilio natur yn ffordd ardderchog i blant gael ymarfer eu corff a'u meddwl.

Mae'r amgylchedd naturiol yn rhoi cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, syml waeth beth fo'ch oedran, eich lefel ffitrwydd neu ryw.

Mae ein tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol wedi crynhoi amrywiaeth o adnoddau am ddim i helpu i gynnal diddordeb plant mewn natur a datblygu eu cysylltiad â natur.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llyfryn Hwyl a Chwarae ym Myd Natur gyda syniadau ac awgrymiadau syml i gael eich teulu i archwilio a darganfod yn yr amgylchedd naturiol
  • Llyfryn Awyr Agored Creadigol i helpu i ysbrydoli creadigrwydd eich plant yn yr amgylchedd naturiol • Rhestr chwarae YouTube ar gyfer Addysg, Dysgu a Chwarae gyda fideos byr ar sut i ysbrydoli anturiaethau awyr agored
  • Awgrymiadau a thriciau i'ch helpu i gynllunio a mwynhau sesiwn ddiogel a hapus gyda'ch plant yn yr awyr agored

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho eich adnoddau am ddim, ewch i Chwarae a hwyl i’r teulu ym myd natur

Pecynnau darganfod

Mae ein gwarbaciau darganfod yn cynnig help llaw i ymwelwyr ifanc i ddod yn agos at natur.

Gallwch fenthyg gwarbac ar eich ymweliad â:

Mae pob gwarbac darganfod yn cynnwys pethau da a defnyddiol fel ysbienddrych, chwyddwydr, pot chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd â chanllaw yn egluro sut i'w defnyddio.

Mae'r gwarbaciau hefyd yn cynnwys rhai heriau i helpu i ddechrau eich helfa natur.

Mentrwch i rwbio rhisgl, rhowch gynnig ar wylio adar, neu dechreuwch chwilio am fwystfilod bach yn y goedwig.

Nifer gyfyngedig o baciau sydd ym mhob canolfan ymwelwyr. Fe'u dyroddir ar sail y cyntaf i'r felin a dylid dychwelyd gwarbaciau i'r ganolfan ymwelwyr ar ôl eu defnyddio.

 

Diweddarwyd ddiwethaf