Gweithgareddau i'w gwneud wrth grwydro coedwigoedd

Darllenwch ymlaen am 20 ffordd o gael mwy o hwyl wrth fynd am dro yn y goedwig

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i'ch hapusrwydd, felly dyna pam rydyn ni'n awyddus i bawb fynd allan, mwynhau natur a chysylltu â'r amgylchedd naturiol. 

Eleni, rydyn ni'n cydweithio â Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymgyrch 'Helpu ni i'ch helpu chi' er mwyn annog pobl i flaenoriaethu a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Hoffem ysbrydoli eraill i fod yn egnïol a chrwydro coedwigoedd, parciau a gwarchodfeydd natur lleol i weld holl brydferthwch Cymru ar ei gorau.

Mewn partneriaeth â GIG Cymru, rydyn ni wedi creu canllaw defnyddiol fel y gallwch chi gael mwy o hwyl yn crwydro’r coedwigoedd. Gallwch lawrlwytho'r canllawiau o waelod y dudalen hon.

Does dim ots beth sydd ar y gweill – o helfa natur i adeiladu cuddfan - bydd angen paratoi, felly dyma ychydig o bethau i fynd gyda chi wrth grwydro’r coetiroedd:

  • Sbienddrych (er mwyn sylwi ar fywyd gwyllt)
  • Papur/papur nodiadau, creons neu bensiliau (ar gyfer rhwbio rhisgl, rhestr ticio helfa natur a chelf natur)

Barod? Amdani! Lawrlwythwch eich canllaw o'r ddolen ar waelod y dudalen hon nawr. Boed law neu hindda, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i weithgaredd addas i'r teulu cyfan a fydd yn annog y plant i fynd mas i'r awyr agored y penwythnos hwn.

  • Cofiwch barchu a gwarchod ein mannau naturiol drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad
  • Am gyngor a chymorth am ddim ar sut i fwynhau ffordd iachach o fyw, ewch i GIG Cymru
  • Chwiliwch am lwybr cerdded wedi'i arwyddo yn Lleoedd i ymweld â hwy

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf