Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.
Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae rhaeadr Blaen y Glyn yng Nghoedwig Talybont ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o ddau o'n meysydd parcio, sef Blaen y Glyn Isaf a Blaen y Glyn Uchaf.
Mae mainc bicnic yn y ddau faes parcio.
Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o Flaen y Glyn Isaf neu Flaen y Glyn Uchaf.
Mae'r llwybr o'r maes parcio isaf yn fyrrach ac mae ganddo lai o esgyniad na'r llwybr o'r maes parcio uchaf.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Gallwch ymuno â llwybr pellter hir Ffordd y Bannau o'n maes parcio ym Mlaen y Glyn Uchaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Blaen y Glyn yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Blaen y Glyn yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Blaen y Glyn 11½ milltir i'r de o Aberhonddu.
Y cod post yw LD3 7YT.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle maes parcio Blaen y Glyn Isaf.
Cymerwch yr A40 o Aberhonddu tuag at y Fenni.
Ar ôl 5 milltir, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd tuag at Dal-y-bont ar Wysg.
Wrth y gyffordd-T, trowch i'r dde tuag at Bencelli.
Yn y pentref, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion tuag at Gronfa Ddŵr Tal-y-bont.
Ewch yn eich blaen am 5¼ milltir ac mae maes parcio Blaen y Glyn Isaf ychydig ar ôl pont garreg ar y dde.
Ar gyfer maes parcio Blaen y Glyn Uchaf ewch ymlaen am ¾ milltir arall ac mae'r maes parcio ar y dde.
Edrychwch ar faes parcio Blaen y Glyn Isaf ar wefan What3Words.
Edrychwch ar faes parcio Blaen y Glyn Uchaf ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Blaen y Glyn Isaf yw SO 063 170 (Explorer Map OL 12).
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Blaen y Glyn Uchaf yw SO 056 176 (Explorer Map OL 12).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Merthyr Tudfil.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r meysydd parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.