Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae coetir Fforest Fawr wedi’i leoli ger Castell Coch, sef un o gestyll harddaf Cymru.
Mae tri llwybr cerdded o faes parcio Fforest Fawr, yn cynnwys llwybr cerfluniau i deuluoedd, ac un llwybr arall o faes parcio Castell Coch.
Ar hyd y llwybrau cerdded, fe sylwch ar rai tomenni a phantiau - safleoedd mwyngloddio haearn a'u tomenni rwbel cyfagos yw'r rhain, sydd bellach wedi’u gorchuddio â llystyfiant.
Coetir cymysg yw Fforest Fawr ac mae ynddi garpedi o glychau'r gog, blodau’r gwynt a garlleg gwyllt yn y gwanwyn.
Mae’r coetir yn cael ei ddefnyddio'n aml fel lleoliad ffilmio i gynyrchiadau sy’n amrywio o ddramâu hanesyddol Cymreig i raglenni teledu i blant, gyda Merlin a Sherlock yn eu plith.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Darganfyddwch rai o drigolion anarferol Fforest Fawr ar hyd y llwybr hwn i deuluoedd.
Ym mhen pellaf y llwybr mwynhewch olygfa banoramig o'r dy¬ryn a'r bryniau cyfagos.
Gallwch weld mwynglawdd dramatig Ogof y Tair Arth - fe'i gelwir hefyd yn Dair Bwa.
Mae’n rhy beryglus mentro’n agos - gallwch weld o'r ffens.
Peidiwch â cholli hen waith cloddio haearn Ogof y Tair Arth - mae’n rhy beryglus mentro’n agos ond gallwch weld o'r ffens.
Mae Ffordd Burges (cymedrol, 1 milltir/1.8 cilomedr) yn daith cerdded o faes parcio Castell Coch o amgylch pen gorllewinol Fforest Fawr.
Mae Fforest Fawr ar hyd Taith Taf.
Mae Taith Taf yn ymestyn am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ac yn dilyn cyfuniad o lwybrau ar hyd glan yr afon, llwybrau rheilffordd a ffyrdd coedwig.
Mae Taith Taf yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sydd yng ngofal Sustrans.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.
Mae Castell Coch yn codi'n ddramatig o goedwig ffawydd Fforest Fawr.
Wedi'i adeiladu ar adfeilion castell canoloesol, mae Castell Coch yn enghrai¬t wych o’r Adfywiad Gothig Fictoraidd.
Mae gan y castell olygfa drawiadol o Geunant Taf ac mae'n dirnod amlwg o’r A470.
Mae’r castell yn cael ei reoli gan Cadw - sylwch mai ar gyfer ymwelwyr sydd wedi talu’n unig y mae'r cyfleusterau toiled a'r ystafell de.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld at Gastell Coch, ewch i wefan Cadw.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Fforest Fawr 4½ milltir i’r de orllewin o Gaerffili.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae Fforest Fawr ar fap Arolwg Ordnans (AR) 151.
Y cyfeirnod grid OS yw ST 142 839.
O Gaerffili, dilynwch yr arwyddion i’r A470 i gyfeiriad Caerdydd.
Dilynwch y A470 am tua 1½ milltir cyn cymryd y ffordd ymadael â’r arwydd Castell Coch.
Dilynwch yr arwyddion i Gastell Coch.
Ewch heibio mynedfa’r castell ac mae maes parcio Fforest Fawr ar y chwith tua 1¼ milltir wedyn.
Mae prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Ffynnon Taf.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.