Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau...
Man cychwyn llwybr Rhyfeddodau'r Garreg Wen sydd â golygfannau hanesyddol yn edrych dros geunant ac afon ddramatig Gwy
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae dewis o ddau lwybr cerdded o'r maes parcio Whitestone. Mae dau ohonynt yn mynd heibio i dri golygfan hanesyddol, sy’n edrych dros geunant ac afon ddramatig Gwy.
Ysgrifennodd y bardd Wordsworth “Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey” ger yr olygfan uchaf.
Mae cwpwl o feinciau picnic a man chwarae glaswelltog ger y maes parcio.
Mae Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy, llwybr pellter hir, yn mynd drwy Whitestone.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r harddaf ym Mhrydain.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn: clychau'r gog yn y gwanwyn, dail haf toreithiog ffrwythlon, lliw hydrefol gwych, a harddwch silwetau coed y gaeaf.
Mae’r gwylfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws ceunant Afon Gwy a’r afon ei hun, drosodd i Fôr Hafren a hen Bont Hafren. Gallwch fwynhau'r golygfeydd gwych hyn trwy gydol y flwyddyn ond yn enwedig yn y gaeaf, pan fydd y dail wedi disgyn.
Mae'r golygfeydd naturiol, cwbl wefreiddiol, sydd i’w gweld yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, ac yn eu plith arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae’r coetiroedd wedi’u lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy (AHNE).
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig ac iddi bwysigrwydd rhyngwladol ac mae’n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o hyd o Afon Gwy sy'n cael ei gydnabod oherwydd y golygfeydd ysblennydd o geunant, coetiroedd dyfnant a thir amaeth a geir yma.
Dewch i ddarganfod mwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy
Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau cerdded ac maent yn dechrau o'r maes parcio.
1¼ milltir/2 cilomedr, hawdd
Mae Rhyfeddodau Whitestone yn cynnwys tair golygfan sy’n edrych dros Dyffryn Gwy, pob un â mainc.
Mae’r llwybr cylchol hwn yn dychwelyd drwy gymysgedd hyfryd o goetiroedd.
4 milltir/6 cilomedr, hawdd
Mae rhan gyntaf y llwybr yn mynd â chi heibio i dair golygfan ar hyd Llwybr Rhyfeddodau Whitestone.
Yna mae’n parhau ar hyd Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy, trwy lôn o goed pinwydd yr Alban, i olygfan Duchess Ride.
Mae’r fainc yma yn lleoliad gwych ar gyfer cael picnic cyn i chi ddychwelyd yn ôl i faes parcio Whitestone.
Mae Coed Wyndcliff - yn borth i wylfa enwog Nyth yr Eryr, un o'r golygfannau gorau yn Nyffryn Gwy.
Mae Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy yn mynd drwy Whitestone.
Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Lllwybr Cerdded Dyffryn Gwy.
Sylwch:
Mae Coed Whitestone tua 10 milltir i'r gogledd o Gas-gwent oddi ar yr A466.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae'r maes parcio am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O bentref Tyndyrn dilynwch yr arwyddion am Gatffrwd wrth y gyffordd sydd ger Gwesty Dyffryn Gwy. Dilynwch y ffordd hon am ryw ddwy filltir a hanner i gyffordd a bydd mynedfa maes parcio'r Garreg Wen gyferbyn. Dilynwch y lôn goedwig i fyny i'r maes parcio.
Mae Coed Whitestone ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 14.
Cyfeirnod grid yr AO yw SO 525 030.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk