Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig yn ardal goediog mewn dyffryn bychan dwfn a ffurfiwyd gan rewlifoedd.
Mae coetir gwern, gwlyb yn gorchuddio llawr y dyffryn, a gellir ei archwilio drwy ddilyn ein llwybr pren hygyrch.
Hefyd, ceir llwybr cerdded byr ond serth sy’n arwain drwy’r coetir cymysg sy’n glynu wrth ochrau serth y dyffryn ac mae hwn yn llawn arogl persawrus clychau'r gog yn y gwanwyn.
Mae’r warchodfa mewn rhan dawel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, ar un adeg, roedd y ffordd drwyddi yn rheilffordd brysur a oedd yn cludo deunyddiau i adeiladu cronfa ddŵr Grwyne Fawr.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Sylwch ar goesynnau’r gwern – tystiolaeth o ‘brysgoedio’ (torri’n agos i’r bôn ac ail dyfu).
Edrychwch allan am gold y gors ac ymbarelau pinc, tyner y triaglog sy’n tyfu ar hyd y llwybr coed yn y gwanwyn, ac aroglwch glychau’r gog sy’n tyfu ar hyd y llwybr.
Mwynhewch y môr o glychau’r gog sydd ar hyd y llwybr un y gwanwyn.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol. .
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Coed y Cerrig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r llwybr pren llydan a gwastad yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae'n cychwyn ychydig dros y ffordd o'r maes parcio ac mae iddo fannau pasio a meinciau pren.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig 4 milltir i’r gogledd o’r Fenni.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) OL 13.
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 293 211.
Dilynwch yr A465 o’r Fenni i gyfeiriad Henffordd.
Ar ôl 4 milltir, trowch i’r chwith i bentref Llanfihangel Crucornau.
Ymhen ½ milltir trowch i’r chwith ar isffordd i Landdewi Nant Hodni.
Ar ôl 1¼ milltir cymerwch y fforch chwith, a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn y warchodfa natur.
Mae’r maes parcio ar y dde ymhen 1¼ milltir.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw'r Fenni.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.