Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coetiroedd Pen-hw yn cynnwys tri choetir hynafol sy'n dyddio o'r cyfnod cyn 1600.
Mae'r tri choetir yn cwmpasu llethrau a bryniau calchfaen ac yn gartref i flodau gwyllt prin gan gynnwys y Genhinen Bedr frodorol Gymreig.
Coed Wen yw'r unig un o'r coetiroedd hyn sy'n agored i ymwelwyr a gallwch ddilyn ein llwybr cylchol ag arwyddion o’i gwmpas.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch y llwybr cylchol o amgylch y coetir – lle gwych i weld blodau gwyllt yn y gwanwyn, adar sy’n ymweld dros yr haf a ffwng yn yr hydref.
Mae Taith Gylchol Langstone-Penhow (8.7 milltir/14 cilomedr) yn mynd ar hyd ymyl orllewinol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coetiroedd Pen-hw.
Mae llwybr cyhoeddus ar hyd ffin ddwyreiniol y goedwig.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Pen-hw yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mae’r coetir wedi cael ei phrysgoedio a'i defnyddio fel coedlan ers cyn cof - gyda’r boncyffion yn cael eu torri’n agos i’r llawr gan arwain at dyfiant sawl coesyn llai.
Mae prysgoedio’n ffordd wych o roi hwb i fywyd gwyllt gan ei fod yn hybu datblygiad cymysgedd o lennyrch a mannau mwy cysgodol.
Wrth i ni dorri’r coed, bydd y cynnydd mewn golau a ddaw yn ei sgil yn peri i lawer o flodau gwylltion ymddangos.
Er ein bod ni’n tueddu i brysgoedio'r rhan fwyaf o’r coed yn eu tro, rydym yn caniatáu i rai aeddfedu’n goed maint llawn.
Y coed mwyaf cy‑redin yw’r onnen, y geiriosen ddu, pisgwydd dail bach, a’r llwyfen lydanddail - maent oll yn ‑ynnu mewn priddoedd calchog.
Mae yma goed derw hefyd, gyda rhai yn 200 mlwydd oed.
Edrychwch am:
Edrychwch am blanhigion prin fel y llaethlys syth a chwlwm cariad.
Wrth i’r haf droi’n hydref bydd y ffyngau’n ymddangos - yn enwedig mewn tywydd gwlyb.
Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, gwyliwch a gwrandewch yn astud am:
Yn yr haf gwyliwch am fflach du a gwyn y gwybedog brith ac oren a llwyd y ceiliog tingoch lliwgar, sy’n edrych fel lleidr pen-ffordd.
Chwiliwch am arwyddion fod moch daear o gwmpas, fel llwybrau neu olion traed.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pen-hw 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gasnewydd.
Mae yn Sir Casnewydd.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pen-hw ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Explorer 152
Cyfeirnod grid yr OS yw ST 415 896.
O Gasnewydd dilynwch draffordd yr M4 tuag at Fryste.
Gadewch yr M4 ar gyffordd 24, gan ddilyn arwyddion i'r A48 tuag at Langstone.
Wrth y gylchfan nesaf, parhewch yn syth ar draws gan ddilyn yr arwyddion i Ben-hw.
Ar ôl 3 milltir, trowch i'r dde i Lôn Bowdens ger y dafarn.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd trac sengl yma am oddeutu 1 milltir ac mae'r lle parcio ar y chwith.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cyffordd Twnnel Hafren.
Er mwyn cael manylion cludiant chords Cyffordd Twnnel Hafrenewch i wefan Traveline Cymru.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.