Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio, Ynys Môn

Beth sydd yma

Croeso

Mae Cors Bodeilio yn wlypdir o bwys rhyngwladol sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt.

Er gwaethaf ei enw, cors galchog yw Cors Bodeilio mewn gwirionedd.

Dilynwch ein teithiau cerdded ag arwyddbyst dros y llwybr pren i'r gwlypdir i gael golygfeydd gwych a'r cyfle i weld y bywyd gwyllt ac arddangosfa o flodau gwyllt yn y gwanwyn a'r haf.

Mae’n warchodfa natur oherwydd ei siglen unigryw (ardal wlypdir o blanhigion byw sy’n ffurfio mawn, heb orchudd coedwig). Mae dŵr o’r creigiau calchfaen sy’n amgylchynu Corsydd Ynys Môn yn llawn mwynau, ac yn creu amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin

Mae'n un o’r tair cors galchog ar Ynys Môn sydd wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Gors

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr (allan ac yn ôl)
  • Amser: 30 muned
  • Dringo: gwastad
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst glas ar hyd y llwybr pren gwastad, 1.4 medr o led, gan aros am ychydig i fwynhau’r golygfeydd dros y gors. Mae yna feinciau gorffwys bob 300 medr. Ewch yn ôl i'r maes parcio ar hyd yr un llwybr.

Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.

Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.

Llwybr Cors a Dolydd

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr (allan ac yn ôl)
  • Amser: 1 awr
  • Dringo: gwastad
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddion gwyrdd ar hyd y llwybr pren lle ceir golygfeydd dros y ffeniau, cyn dilyn y llwybr heb wyneb (a all droi’n fwdlyd iawn ar ôl tywydd gwlyb) tua’r dolydd y tu draw. Ceir nifer o feinciau lle gallwch orffwys a mwynhau’r golygfeydd. Ewch yn ôl ar hyd yr un llwybr. Nodwch y gall ceffylau fod yn pori ar y warchodfa.

Mwynheuwch y sioe o flodau gwyllt ar y dolydd yn y gwanwyn a’r haf.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae’r planhigion yng Nghors Bodeilio yn cefnogi ystod o drychfilod, sydd yna’n denu nifer fawr o adar y gwlyptir.

Safle rhagorol ar gyfer tegeirianau a blodau prin eraill

Tegeirian y clêr sy’n ennill y wobr fan hyn. Mae’n degeirian prin eithriadol yng Nghymru - gyda math melyn hyd yn oed prinnach wedi’i ganfod yma.

Mae wyth tegeirian arall yma gan gynnwys tegeiria-y-gors culddail, tegeirian pêr y gors, caineirian a chaldrist y gors.

Ymhlith y rhywogaethau ffen nodweddiadol mae’r gorsfrwynen lem a’r hesgen ylfinfain.

Mae planhigion eraill yn ffynnu yma megis y gorsfrwynen ddu, helygen Mair a’r frwynen flaendon.

Cors wych i fwystfilod bach

Rhaid mai’r seren yw’r gele feddyginiaethol brin - yr unig gele Brydeinig gyda dannedd a all frathu trwy groen dynol.

Yn ogystal ceir pryfed prin, chwilod dŵr, gwyfynod ac 19 math o löyn byw.

Yr hawsaf o’r cwbl i’w gweld yw’r gweision neidr a’r mursennod (9 rhywogaeth) sy’n hofran ac yn gwibio ar draws ddyfroedd agored y gors.

Gwelyau cors sy’n lleoedd gwych i adar

Gallwch weld hyd at 130 o rywogaethau adar yma!

Mae’r warchodfa yn llawn bwrlwm yn y gwanwyn a’r haf gyda chân adar fel:

  • telor y cyrs
  • telor yr hesg
  • bras y cyrs
  • troellwr bach
  • clochdar y cerrig

Hwyrach y gwelwch hefyd y gornchwiglen a’r gylfinir, neu hyd yn oed y gïach cyffredin.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Llefydd yw Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd ag enghreifftiau gwych o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearyddol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae tair o’r corstiroedd ar Ynys Môn wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol:

Darganfod mwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol

Darganfod mwy am Brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn

Cau a dargyfeirio

Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw

O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff

Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cors Bodeilio 11 milltir i'r gogledd orllewin o Fangor.

Mae yn Sir Fôn.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae cors Bodeilio ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Esplorer 263.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 506 773.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A4087 o Fangor, tuag at y Goetre.

Ymunwch â'r A5 tuag at Bont Britannia.

Ar ôl ½ milltir, cymerwch yr A5025 gan ddilyn yr arwyddion i Fenllech.

Parhewch am 5 milltir nes cyrraedd Pentraeth.

Yn y pentref, cymerwch y chwith cyntaf ger y swyddfa bost a chwith eto tuag at yr ysgol.

Dilynwch y ffordd gul hon am 1 ¼ milltir ac mae'r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r orsaf drên agosaf ym Mangor neu yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (sef stop ar gais).

I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae'r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf