Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Lleolir Foel Friog ymysg tirwedd ryfeddol Coedwig Dyfi.
Mae ger pentref Aberllefenni ac mae’n hawdd dod o hyd iddo o’r A487.
Darganfyddwch y derw hynafol, adfeilion fferm a golygfeydd godidog ar lwybr cerdded cylchol i gopa Pen y Bryn.
Mae’r safle picnic deniadol ger yr afon.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch yr arwyddbyst coch i groesi Afon Ddulas yna dringwch i fyny’r bryn ar lwybr serth, trwy’r goedwig dderw i adfail Pen y Bryn.
O’r fan hon fe welwch chi olygfeydd godidog o Foel Crochan a Godre Fynydd.
Bydd mainc wrth yr olygfan i gael egwyl haeddiannol iawn wrth edrych ar y golygfeydd syfrdanol.
Mae Foel Friog wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.
Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.
Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.
Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.
Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.
Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.
Rhowch gynnig ar ein llwybrau ag arwyddbyst am flas o hanes a diwylliant yr ardal a chewch weld yr afonydd yn rhaeadru a’r coed mawreddog.
Yn ogystal â Foel Friog, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:
Mae'r rhan fwyaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Coedwig Dyfi yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Sut i gyrraedd yma
Mae Foel Friog 6½ milltir o Fachynlleth.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sirol Sir Gwynedd a Sir Powys.
Mae Foel Friog ar fap Explorer 215 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SH 769 092.
Cymerwch yr A487 o Fachynlleth tuag at Ddolgellau.
Yng Nghorris, trowch yn sydyn i’r dde gan ddilyn yr arwyddion am Aberllefenni.
Parhewch am oddeutu 1½ milltir ac mae’r maes parcio ar y dde, yn union cyn arwydd pentref Aberllefenni.
Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Machynlleth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.