Coedwig Dyfi - Ceinws (Climachx), ger Machynlleth

Beth sydd yma

Croeso

Mae llwybr beicio mynydd Climachx wedi'i leoli ger pentref Ceinws yng nghanol tirwedd ysblennydd Coedwig Dyfi.

Mae hwn yn llwybr gradd coch, 15 cilometr o hyd ac mae’n adnabyddus am ei drac sengl a'i ddisgyniad terfynol.

Rheolir y llwybr gan Beicio Mynydd Dyfi, sef grŵp cymunedol lleol, ac mae'n hawdd dod o hyd iddo o'r A487.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Climachx

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 15 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 450 medr
  • Amser: 1-2 awr

Gall fod llwybr Climachx yn fyr, ond mae’n creu fwy o argraff na fyddai ei 15km yn cyfleu.

Disgyniad terfynol ‘Tony y Teigr’ yw’r uchafbwynt. Trac sengl naturiol gydag adrannau technegol creigiog, cwympiadau, slabiau creigiog a thro i’r chwith sy’n ddigon i godi ofn cyn y ddisgynfa igam ogam terfynol.

Beicio Mynydd Dyfi

Mae Llwybr Climachx yn cael ei gynnal a’i reoli gan Beicio Mynydd Dyfi, sef grŵp cymunedol lleol.

Mae Beicio Mynydd Dyfi yn gwmni buddiannau cymunedol a ffurfiwyd gan wirfoddolwyr i barhau i ddatblygu, hyrwyddo a diogelu cyfleusterau ar gyfer beicio mynydd yn ardal Dyfi.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Beicio Mynydd Dyfi.

Coedwig Dyfi

Mae Ceinws wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.

Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.

Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.

Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.

Llywbrau cerdded eraill yng Nghoedwig Dyfi

Rhowch gynnig ar ein llwybrau ag arwyddbyst am flas o hanes a diwylliant yr ardal a chewch weld yr afonydd yn rhaeadru a’r coed mawreddog.

Mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd hyn Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae'r rhan fwyaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Ceinws 4½ milltir i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Ceinws ar fap Explorer 215 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid OS ar gyfer y maes parcio ar ddechrau Llwybr Climachx yw SH 760 063.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A487 o Fachynlleth tuag at Ddolgellau.

Ar ôl tua 4 milltir, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd tuag at Geinws.

Croeswch y bont garreg a dilynwch y ffordd o gwmpas i'r dde.

Dilynwch yr arwyddion parcio glas i'r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Machynlleth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Climachx PDF [1.8 MB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf