Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Coed Nant Gwernol ar gyrion pentref Abergynolwyn.
Mae coetir wedi’i enwi ar ôl rhaeadrau byrlymus y ceunant creigiog.
Ar y llwyfandir uwchben y ceunant gellir gweld olion Chwarel Lechi Bryn-Eglwys sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae'r llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dilyn yr afon ac yn archwilio olion chwarel lechi Bryn-Eglwys.
Gallwch ddarganfod sut fywyd oedd gan weithwyr y chwarel a'u teuluoedd drwy wrando ar ein llwybr sain sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar hyd Llwybr y Chwarelwr.
Mae rheilffordd gul Talyllyn yn rhedeg trwy Goed Nant Gwernol a gellir dechrau'r llwybrau cerdded o ddwy orsaf ar hyd y lein.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd yn llwybr llinol rhwng gorsaf Nant Gwernol a gorsaf Abergynolwyn sydd ar Reilffordd Talyllyn.
Mae golygfeydd o’r mynyddoedd o amgylch, trenau stêm ac inclein Allt Wyllt hanesyddol, rhan o’r hen chwarel.
Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd
Mae Llwybr y Rhaeadrau yn mynd ar i fyny, gan ddilyn glannau’r afon raeadraidd.
Yna mae’n croesi pont bren i ymuno â’r hen dramffordd cyn mynd i lawr allt serth wrth ochr rhan o hen inclein Allt Wyllt yn ôl i orsaf Nant Gwernol.
Chwiliwch am olion y cytiau weindio a’r cyfarpar dirwyn, neu winsh, ar ben y llethr.
Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr y Rhaeadrau
Mae uchafbwyntiau'r llwybr hwn yn cynnwys golygfeydd eang, rhaeadrau ac olion y chwarel.
Chwiliwch am baneli a physt llafar, sy’n Adrodd hanes chwarelwyr Bryn-Eglwys a’u teuluoedd.
Safleoedd cychwynnol ar gyfer Llwybr y Chwarelwr
Dewch i ddarganfod sut fywyd oedd gan weithwyr Chwarel Bryn Eglwys a'u teuluoedd drwy wrando ar ein llwybr sain.
Bwriadwyd i’r llwybr sain gael ei ddefnyddio ar hyd Llwybr y Chwarelwr, llwybr cerdded sydd wedi’i arwyddo ar hyd Coed Nant Gwernol.
Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain i'ch ffôn clyfar cyn eich ymweliad oherwydd gall darpariaeth rhwydwaith symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o sgript y llwybr sain o'r adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.
Mae Coed Nant Gwernol wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.
Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.
Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.
Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.
Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.
Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.
Yn ogystal â Choed Nant Gwernol, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:
Maeolion Chwarel Lechi Bryn-Eglwys yng Nghoed Nant Gwernol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae'r rhan fwaf o Goedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Coedwig Dyfi yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae Rheilffordd Talyllyn yn rhedeg trwy Goedwig Dyfi ar ei thaith rhwng Tywyn ar yr arfordir i orsaf Nant Gwernol ger pentref Abergynolwyn.
Agorwyd y lein yn wreiddiol i gario llechi o'r chwareli ym Mryn-eglwys i Dywyn ac mae bellach yn rheilffordd dreftadaeth.
Mae modd dechrau ein llwybrau cerdded o orsaf Abergynolwyn neu Nant Gwernol ar hyd y lein.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Rheilffordd Talyllyn.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Mae Coed Nant Gwernol 12 milltir i’r de o Ddolgellau.
Y cod post yw LL36 9UU.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A487 o Fachynlleth tuag at Ddolgellau.
Trowch i’r chwith i’r B4405 ar ôl pasio Corris gan ddilyn yr arwydd i Abergynolwyn.
Dilynwch y ffordd hon ac mae maes parcio neuadd bentref Abergynolwyn (Y Ganolfan Gymunedol) ar y chwith.
Gweler y map yn y maes parcio a dilynwch y llwybr cyswllt byr ond serth i orsaf Nant Gwernol sef man cychwyn y llwybrau cerdded.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer dechrau’r llwybrau cerdded yng ngorsaf Nant Gwernol yw SH 681 067 (Explorer Map OL 23).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Tywyn.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae maes parcio yn neuadd bentref Abergynolwyn (Y Ganolfan Gymunedol).
Gweler y map yn y maes parcio a dilynwch y llwybr cyswllt byr ond serth i orsaf Nant Gwernol sef man cychwyn y llwybrau cerdded.
Nid oes maes parcio yng ngorsaf Nant Gwernol ei hun.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.