Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal, ger Betws-y-coed

Beth sydd yma

Croeso

Mae Cwm Idwal yn Nyffryn Ogwen ym mhen gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru’n cydweithio i reoli Cwm Idwal.

Mae canolfan ymwelwyr Cwm Idwal gerllaw maes parcio Canolfan Ogwen.

Mae llwybr cylchol o amgylch Llyn Idwal - cadwch lygad am y panel gwybodaeth yn y maes parcio.

Mae canolfan ymwelwyr Cwm  Idwal a maes parcio Canolfan Ogwen yn cael eu gweithredu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Gall ymwelwyr weld tystiolaeth glir o’r modd y cafodd y dirwedd hon ei chreu yng Nghwm Idwal.

Crëwyd y plygiadau a’r ffawtiau o ganlyniad uniongyrchol i’r grymoedd terfysglyd a wthiodd y mynyddoedd hyn i fyny 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y clogwyni a’r cribau – yn ogystal ag amffitheatr enfawr Cwm Idwal ei hun – eu cerflunio a’u cafnu gan effeithiau Oes yr Iâ, mewn cyfnod llawer mwy diweddar.

Ym mhobman o’ch cwmpas mae’r hyn a adawyd ar ôl gan y rhewlif anferth a lenwai’r gofod hwn ar un adeg – dyffrynnoedd crog Cwm Cneifion a Chwm Clyd; y clogfeini llathredig enfawr; y marian ar lan Llyn Idwal; y llethrau sgri mawreddog, a’r nodwedd fwyaf rhyfeddol o’r cyfan, sef y creigiau danheddog ar lwyfandir copa’r Glyderau.

Ar y silffoedd creigiog, y tu hwnt i gyrraedd y geifr gwyllt, mae yna lu o blanhigion Arctig alpinaidd prin yn tyfu, yn cynnwys y gludlys mwsoglog, lili’r Wyddfa, mantell-Fair y mynydd a’r tormaen porffor.

Uchafbwyntiau'r tymor

Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal.

Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.

Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.

  • Yn ystod y gwanwyn, bydd Lili'r Wyddfa, sef planhigyn prin, yn blodeuo, yn ogystal â blodau mynyddig eraill.
  • Mae adar mudol megis mwyeilch y mynydd a'r gynffonwen yn ymgartrefu yng Nghwm Idwal yn ystod yr haf.
  • Mae'r hydref yn arwain at ddyddiau byrrach ac amrywiaeth o liwiau gweundirol.
  • Yn ystod misoedd oeraf ddiwedd y gaeaf hyd at ddechrau'r gwanwyn, mae blodau'r dormaen glasgoch yn lliwio'r dirwedd aeafol.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Yn 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru,

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf