Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae gwaith torri coed yn cael ei wneud yn y coetir hwn. Ni fydd Llwybr Geirionydd i Grafnant ar gau ond efallai y gofynnir i chi stopio ac aros nes ei bod yn ddiogel i chi fynd ymlaen.
Dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.
Mae'r gwaith cwympo coed hwn hefyd yn effeithio ar lwybrau yn Llyn Crafnant. Am fwy o wybodaeth, gweler y wybodaeth ar frig tudalen we Llyn Crafnant.
Mae Llyn Geirionydd yn lle poblogaidd i gael picnic ar lan y dŵr.
Gallwch ddilyn y llwybr cerdded cylchol sydd wedi’i arwyddo o Lyn Geirionydd drwy’r goedwig hyd at Lyn Crafnant gerllaw – a mwynhau golygfeydd o’r llynnoedd a’r mynyddoedd ar y ffordd.
Llyn Geirionydd, yn ôl pob sôn, oedd cartref y bardd o’r 6ed ganrif, Taliesin, a saif cofeb iddo ar y lan ogleddol.
Yn y 1870au, roedd hon yn dirwedd ddiwydiannol ddiffaith - yn wir, mae'r maes parcio ar domen sbwriel ger mynedfa hen waith plwm.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy’r goedwig ac yn cysylltu’r ddau lyn.
Dilynwch y llwybr heibio pen deheuol Llyn Geirionydd nes bod y llwybr yn culhau ac yn eich taflu i gysgod a brith olau coed llarwydd tal.
Disgynnwch yn serth drwy blanhigfa byrwydd ddistaw gysgodol ac yna heibio coed ynn a drain gwynion yn drwm o fwsogl a chen, sy’n arwydd o’r awyr iach yma.
Parhewch ar ffordd darmac heibio i Lyn Crafnant a ffordd goedwig, gan ddringo i olygfan, yna disgynnwch yn ôl i Lyn Geirionydd.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau yn agored rhwng 9am a 7pm drwy’r flwyddyn.
Byddant yn cael eu cloi dros nos.
Mae Llyn Geirionydd ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae Llyn Geirionydd 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Llyn Geirionydd ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer OL17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 604.
Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.
Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.
Ewch heibio i nifer o feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru a throwch i’r dde wrth yr arwyddbost ar gyfer Llyn Geirionydd.
Dilynwch y ffordd hon i’r maes parcio.
Yr prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.