Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’r systemau twyni tywod actif pwysicaf yng Nghymru a’r DU.
Mae twyni actif neu ddynamig fel y rhain lle ceir ardaloedd eang o dywod noeth yn anghyffredin ac yn cynnal fflora a ffawna hynod arbenigol a phrin. Mae’r gwynt yn symud ac yn ailffurfio’r twyni’n gyson gan greu tirwedd sy’n newid ac yn esblygu’n ddi-baid.
Yn ogystal â’r twyni tywod enfawr, ceir ardaloedd o laciau sydd dan ddŵr yn dymhorol, morfa heli a glaswelltir llawn blodau.
Mae'r cyfuniad hwn o gynefinoedd yn gartref i amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt.
Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech i’r gogledd, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd arfordir Ardudwy.
Mae’r llwybr pren o faes parcio Ffordd Benar yn mynd i’r traeth.
Ar ddiwrnod clir gallwch fwynhau golygfeydd o Ben Llŷn a chipolwg o Ynys Enlli o’r darn hwn o'r arfordir.
Mae gan lwybr pren le i weld yr olygfa a mainc picnic ac mae meinciau picnic ym maes parcio.
Cofiwch fod rhan o’r warchodfa yn draeth noethlymuno dynodedig a cheir arwyddion priodol.
Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf.
Mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa hel, ac maen hawdd iawn aflonyddu arnynt.
Mae Morfa Dyffryn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mae hwn yn amser da i weld llawer o'r planhigion blodeuol sy'n tyfu yng nglaswelltir a llaciau’r twyni tywod.
Mae’r safle hwn yn gartref i sawl math o flodyn gwyllt, cen a mwsogl sy’n brin ac anghyffredin yn genedlaethol. Gallwch weld tegeirianau gwylltion hyfryd megis caldrist y gors yn tyfu ochr yn ochr â thegeirian y fign yn ogystal â’r tegeirian rhuddgoch.
Mae llu o flodau gwylltion eraill lliwgar i’w mwynhau o'r gwanwyn cynnar ymlaen. Bydd y Glustog Fair a’r ganrhi goch yn blodeuo’n gynnar a nifer o rywogaethau arfordirol eraill gan gynnwys tagaradr, trilliwiau, fioledau a physen-y-ceirw yn blodeuo’n ddiweddarach.
Efallai hefyd y gwelwch chi glust-y-llygoden arfor, y tywodlys dail teim, llaethlys Portland llaethlys a pheisgwellt y twyni.
Daw’r misoedd cynhesach ag amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol i laswelltir a llaciau’r twyni tywod. Mae'r rhain yn cynnwys trilliw y twyni, rhwyddlwyni, teim a thegeirianau.
Gallwch hefyd weld clystyrau o blanhigion eithaf prin fel y galdrist felynwerdd a’r glesyn-y-gaeaf deilgrwn – mis Gorffennaf neu fis Awst yw'r amser gorau i weld y rhain.
Mae’r haf hefyd yn amser prysur i lawer o infertebratau fel gwenyn turio a chwilod. Mae'r blaendwyni symudol yn gartref i chwilen deigr y twyni.
Chwiliwch am löynnod byw copor bach, britheg werdd, gweirlöyn y perthi a’r gweirlöyn llwyd a gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd fel teigr y benfelen a’r bwrned pum smotyn.
Mae glaswelltiroedd sychach y twyni’n gynefin da ar gyfer ffyngau ac fe welwch gasgliad trawiadol o ffyngau yma.
Dim ond yng nglaswelltiroedd twyni sydd wedi sefydlu ers amser maith fel y rhain ym Morfa Dyffryn y gwelwch chi gorseren ddaear.
Efallai hefyd y gwelwch chi capiau cwyr amryliw, ffyngau cwrel a phastwn, tafodau’r ddaear ac ambarelo’r bwgan.
Mae fflatiau tywod a morfa heli’r aber yn diroedd bwydo pwysig i adar dŵr yn ystod y gaeaf.
Fe welwch chi adar hirgoes ar y traeth ac, os edrychwch chi allan i’r môr, mae’n bosibl y gwelwch chi wyachod a throchyddion yn gaeafu a llu o fôr-hwyaid duon.
Mae rhywogaethau prin eraill o adar fel y frân goesgoch a’r boda tinwyn yn ymweld â’r warchodfa o dro i dro yn ystod y gaeaf.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Morfa Dyffryn wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Mae’r llwybr pren yn wastad ac eang ac yn addas i gadeiriau olwyn.
Mae llwybr pren yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn 5 milltir i’r gogledd o'r Bermow.
Y cod post yw LL44 2HA.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Ewch ar yr A496 o'r Bermow i Harlech.
Ar ôl pentref Tal-y-bont, trowch i’r chwith gyda’r arwydd brown a gwyn i Ystâd Glan-môr Dyffryn at draeth Benar.
Mae'r maes parcio ar ddiwedd y lôn un trac hwn (Ffordd Benar) ar y chwith ar ôl yr Ystâd Glan-môr Dyffryn.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 572 227 (Explorer Map OL 18).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Dyffryn Ardudwy.
Mae gwasanaeth bws o’r de (Y Bermow) a’r gogledd (Harlech) ar hyd yr A496. Mae safle bws ar ben Ffordd Benar ger yr eglwys.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Y prif fynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yw drwy faes parcio Traeth Benar ar Ffordd Benar.
Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Rhaid talu am barcio.
I gael gwybodaeth am oriau agor a thaliadau parcio ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.